Mae cwmni Boots wedi cadarnhau y bydd 200 o’i siopau yn cau ar draws gwledydd Prydain.

Fe fydd y mwyafrif o’r siopau sy’n cau yn fferyllfeydd lleol.

Nid yw’n glir faint o swyddi fydd yn cael eu heffeithio, na faint o siopau yng Nghymru fydd yn cau, meddai Boots wrth golwg360.

 “Rydyn ni’n credu mai dyma’r peth iawn i’w wneud gan ei fod yn golygu y gallwn ni fuddsoddi mwy mewn staffio yn y siopau hynny fydd yn aros ar agor,” meddai cyfarwyddwr Boots yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon, Sebastian James.

“Nid ydym yn rhagweld effaith sylweddol ar gydweithwyr gan y byddwn yn adleoli’r mwyafrif llethol i siopau cyfagos.”

Mae’r penderfyniad yn rhan o gynlluniau ehangach Walgreens Boots Alliance, perchennog Boots, i leihau costau yn dilyn ergyd i’w elw oherwydd bod llai o werthiant yng ngwledydd Prydain a’r Unol Daleithiau.

Dywed yr undeb gweithwyr Usdaw ei fod yn newyddion “pryderus” i weithwyr ac maen nhw yn galw am drafodaethau gyda’r cwmni.