Mae saith o bobol wedi’u lladd ar ôl i adeilad saith llawr ddymchwel yn Cambodia.

Cafodd 21 o bobol eu hanafu yn y digwyddiad yn ninas Sihanoukville fore heddiw (dydd Sadwrn, Mehefin 22).

Mae ymdrechion ar y gweill i geisio dod o hyd i ragor o bobol yn fyw o dan y rwbel.

Dydy hi ddim yn glir beth oedd wedi achosi i’r adeilad gwympo.

Buddsoddwr o Tsieina sy’n berchen yr adeilad, yn ôl llywodraethwr talaith Preah Sihanouk.

Mae’r holl weithwyr yn yr adeilad yn dod o Cambodia, ac mae lle i gredu eu bod nhw’n cysgu yno.