Mae trigolion Mawritania yn ethol arlywydd newydd yn y gobaith o ddod ag eithafiaeth Islamaidd i ben yn y wlad.
Mae un o’r ymgeiswyr yn awyddus i wella cydberthynas hiliol y wlad lle mae degau o filoedd o bobol yn byw’n gaethweision, yn ôl amcangyfrifon.
Mae Amnest Rhyngwladol yn galw ar yr arlywydd nesaf i roi terfyn ar gamdrin hyd at 4.5 miliwn o bobol.
Mae’r wlad Ffrengig wedi wynebu pum ymgais i gipio grym ers iddi ddod yn annibynnol yn 1960, gydag arweinwyr milwrol mewn grym am y rhan fwyaf o’r cyfnod hwnnw.
Cipiodd Mohamed Ould Abdel Aziz rym yn 2008, a hynny er mwyn dod â’r cyfnod milwrol blaenorol i ben.
Enillodd e etholiad cyffredinol y flwyddyn ganlynol.
Ond fe wnaeth y rhan fwyaf o’r gwrthbleidiau gadw draw o’r etholiad cyffredinol yn 2014, pan enillodd Mohamed Ould Abdel Aziz 82% o’r bleidlais.
Y cyfnod nesaf
Yn ôl cyfansoddiad y wlad, all yr arlywydd presennol ddim sefyll am dymor arall.
Mae’n ymddangos ei fod am barchu’r rheolau hynny, yn hytrach na cheisio newid y cyfansoddiad, fel nifer o’i ragflaenwyr.
Mae’n ffafrio Mohamed Ould El Ghazouni i’w olynu, ac yntau’n gyn-aelod o’r lluoedd arfog.
Fe wnaeth nifer sylweddol o frawychwyr Islamaidd ffoi o Mali i Mawritania yn 2012.
Fe fydd rownd nesa’r etholiad yn cael ei chynnal fis nesaf oni bai bod un o’r ymgeiswyr yn ennill mwyafrif heddiw (dydd Sadwrn, Mehefin 22).