Mae’r heddlu yng Nghaerdydd wedi cyhuddo dyn 19 oed o Cheltenham o gyfres o droseddau’n ymwneud ag annog casineb hiliol.

Cafodd Elliott Richards-Good ei arestio fis Medi’r llynedd yn dilyn nifer o ddigwyddiadau rhwng Hydref 2017 ac Ebrill 2018, a’i gyhuddo yn dilyn ymchwiliad ar y cyd rhwng Heddlu’r De ac uned wrth-frawychiaeth.

Mae wedi’i gyhuddo o sawl trosedd, sef:

  • pum achos o fod â deunydd ysgrifenedig bygythiol yn ei feddiant gyda’r bwriad o annog casineb hiliol
  • dau achos o arddangos deunydd bygythiol neu sarhaus gyda’r bwriad o annog casineb hiliol
  • dau achos o fod â deunydd ysgrifenedig yn ei feddiant gyda’r bwriad o’u harddangos i annog casineb ar sail hil neu rywedd
  • dau achos o ddifrod troseddol bygythiol ar sail hil neu grefydd

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth, ac fe fydd yn mynd gerbron ynadon Caerdydd ar Orffennaf 19.