Mae Nazanin Zaghari-Ratcliffe, y weithwraig elusen o Brydain sydd mewn carchar yn Iran, wedi ail-gychwyn ar streic newyn.
Dywedodd ei gŵr, Richard Ratcliffe, iddo gael galwad ffôn ganddi heddiw yn dweud ei bod yn benderfynol o brotestio yn erbyn ei charchariad annheg.
“Mae hyn yn rhywbeth mae wedi bod yn ei fygwth ers tro,” meddai. “Roedd hi wedi dweud y byddai’n gwneud rhywbeth i bwysleisio i’r ddwy lywodraeth mai digon yw digon. Mae hyn wedi mynd ymlaen yn rhy hir.
“Yr hyn mae’n ei fynnu yw cael ei rhyddhau yn ddiamod – ac mae hi wedi bod yn gymwys am hyn ers amser maith.”
I gefnogi ei wraig, mae Richard Ratcliffe hefyd wedi cychwyn ar streic newyn y tu allan i lysgenhadaeth Iran yn Llundain, lle mae teulu a ffrindiau wedi ymuno ag ef.
“Fe wnes i addo y byddwn i’n ei chefnogi pe bai’n ail-gychwyn ar streic newyn – er mwyn sicrhau bod ei stori’n aros yn llygaid y cyhoedd,” meddai.
Mewn neges at y prif weinidog nesaf, meddai:
“Hoffwn i bwy bynnag a ddaw yn brif weinidog sicrhau, fel un o’i brif flaenoriaethau, ei fod yn amddiffyn dinasyddion Prydain rhag cael eu carcharu’n annheg a’u poenydio.”
Mae Nazanin Zaghari-Ratcliffe wedi bod mewn carchar yn Iran ers tair blynedd ar ôl cael ei chyhuddo o ysbïo dros Brydain.