Mae miloedd o alarwyr yng ngorllewin Belfast wedi bod yn angladd gweriniaethwr ‘di-edifar’ a oedd wedi gwrthwynebu’n gyson benderfyniad Sinn Fein i gefnu ar drais.
Roedd Billy McKee, a fu farw ddydd Mawrth yn 97 oed, yn un o aelodau sylfaenol y Provisional IRA.
Cafodd ei arch ei chludo o eglwys Sant Pedr mewn car gwn, gyda dynion yn gwisgo capiau beret du yn null yr IRA yn dilyn.
Cafodd teyrnged iddo ei darllen mewn gardd goffa ar y Falls Road gerllaw:
“Byddwn yn dy gofio â balchder.
“Roeddet ti’n un o filiwn ac yn wir weriniaethwr i’r diwedd – digyfaddawd, di-ildio ac yn fwy na dim, di-edifar.”
Meddai un o’r galarwyr yno wedyn:
“Iddo ef, nid Iwerddon newydd nac Iwerddon â chytundeb oedd y nod, ond gweriniaeth annibynnol 32-sir a gafodd ei datgan o flaen y Swyddfa Bost yn 1916.”