Mae arweinydd eglwys yn Mecsico sy’n hawlio bod ganddo ragor na miliwn o ddilynwyr, wedi cael ei gyhuddo o smyglo pobol ac o dreisio plant yn nhalaith Califfornia.

Fe gafodd Naason Joaquin Garcia ei arestio wedi iddo lanio ym maes awyr rhyngwladol Los Angeles.

Wedi hynny, mae tua mil o addolwyr wedi ymgynnull ym mhencadlys eglwys La Luz del Mundo (Goleuni’r Byd) yn Guadalajara, Jalisco, Mecsico, i weddïo drosto, tra bod eu harweinydd ysbrydol yn y ddalfa yn Los Angeles ar fechnïaeth o £20m.

Mae’r gŵr 50 oed yn wynebu 26 achos sy’n cynnwys honiadau o smyglo pobol a chynhyrchu pornograffiaeth plant, ac o dreisio plentyn. Mae’r cyhuddiadau’n cyfeirio’n benodol at dair merch ac un wraig yn ystod y cyfnod rhwng 2015 a 2018 yn ardal Los Angeles County.