Mae ymgyrch i glirio llethrau mynydd ucha’r byd, wedi dod o hyd i 24,200 pwys o sbwriel a phedwar corff marw.
Mae swyddogion Adran Dwristiaeth Nepal wedi cadarnhau fod gweithwyr wedi treulio wythnosau yn codi plastig, bocsys bwyd, poteli a silindrau ocsigen gwag oddi ar Everest.
Mae peth o’r gwastraff wedi’i gario mewn awyrennau i Kathmandu a’i roi yng ngofal ail-gylchwyr mewn seremoni a gafodd ei chynnal i nodi penllanw’r gwaith clirio.
Ond oherwydd yr eira ar y mynydd, mae hi’n amhosib dweud yn iawn faint o sbwriel sydd ar Everest, meddai swyddogion wedyn. Roedd y rhan fwya’ o’r gwastraff wedi’i adael yn ardaloedd Gwersyll 2 a 3, lle mae dringwyr yn gorffwys ar eu ffordd o Base Camp i’r copa.