Mae trefnwyr protestiadau democratiaeth Swdan yn dweud bod nifer y meire bellach wedi cyrraedd 60.
Daw hyn yn dilyn trais ledled y wlad ar ôl i brotestwyr o blaid democratiaeth ddechrau gwrthdydtion yn y brifddinas, Khartoum, ddechrau’r wythnos.
Mae Pwyllgor Meddygon Swdan yn dweud bod lluoedd diogelwch y wlad wedi lladd o leiaf ddeg o bobol yn Khartoum av Omdurman ddydd Mercher (Mehefin 4).
Daeth hynny ar ôl i 10 o bobol eraill gael eu lladd ddydd Mawrth (Mehefin 3), gan gynnwys pump yn nhalaith White Nile, tri yn Omdurman a dau yng nghymdogaeth Bahri Khartoum.
Pwyllgor y meddygon – cangen feddygol o Gymdeithas Gweithwyr Proffesiynol Swdan, sydd wedi bod yn arwain y protestiadau yn erbyn rheolaeth y fyddin.