Mae gwasanaethau achub Seland Newydd yn chwilio am ddringwr o wledydd Prydain sydd wedi bod ar goll ers pum diwrnod.

Roedd Darren Myers yn croesi’r Tarura Rangers ar y North Island ar ei ben ei hun pan fe gollodd gysylltiad gyda’i deulu.

Cafodd y dyn 49 oed, s’n hanu o wledydd Prydain ond yn byw yn Wellington, ei ddatgan ar goll ar ôl iddo fethu â chyrraedd diwedd ei daith bnawn dydd Sadwrn diwethaf (Mehefin 1).

Mae’r gwasanaethau achub yn dal i geisio dod o hyd i Darren Myers o’r awyr ac ar dir, er nod eu hymdrechion wedi carl eu rhwysrro gan wyntoedd cryf ddoe (dydd Mawrth, Mehefin 4).

Mae’r Tarura Rangers, sy’n ardal o tua 450 milltir sgwâr, yn lle gwyllt yn Ynys y Gogledd, lle mae rhai llwybrau sy’n cael eu hargymell ar gyfer dringwyr profiadol yn unig.