Mae’r Aelod Seneddol Boris Johnson yn rhybuddio y gallai dyfodol y Ceidwadwyr fod yn y fantol os nad yw Brexit yn digwydd ar Hydref 31.

Yn ei araith i fod yn Brif Weinidog  dywedodd y cyn-Ysgrifennydd Tramor y byddai’n gallu addo delifro Brexit gan osgoi  “diflaniad posib” y Ceidwadwyr.

Fe ategodd Andrea Leadsom hyn gan ddweud gall dileu ymadawiad gwledydd Prydain o’r Undeb Ewropeaidd fynd â’r blaid i’w bedd.

Gwnaethant eu sylwadau mewn hystings preifat ar gyfer Aelodau Seneddol o grwp One Nation y Ceidwadwyr canol dde, wrth i gefnogwyr Brexit fynnu bod y prif weinidog nesaf yn gadw at ddyddiad cau Brexit, sef Hydref 31.

Dyma oedd hystings mawr cyntaf yr ymgyrch. wrth i’r Ceidwadwyr chwilio am arweinydd newydd.

Roedd mwy na 80 o Aelodau Seneddol yn yr ystafell bwyllgora yn Nhŷ’r Cyffredin yn gwrando ar Boris Johnson, Andrea Leadsom, Sajid Javid a Rory Stewart.

“Mae angen i ni sylweddoli dyfnder y problemau rydyn ni yn eu hwynebu – oni bai ein bod yn gwneud hyn ac yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, byddwn yn cael ein cosbi am amser hir iawn,” meddai Boris Johnson wedyn.

“Mae yna ddewis go iawn rhwng peri i Brexit ddigwydd a diflaniad posib y blaid wych hon – ond rwy’n credu y gallaf sefyll yn erbyn (Nigel) Farage ac ennill y pleidleiswyr yn ôl oddi arno.”