Fe fydd arweinwyr, y frenhiniaeth a channoedd o filwyr yn talu teyrnged i’r rhai wnaeth lansio yn Normandi 75 blynedd yn ôl i fory (dydd Iau, Mehefin 6) mewn seremoni genedlaethol.

Yn Portsmouth heddiw (dydd Mercher, Mehefin 5) bydd y Frenhines, y Prif Weinidog Theresa May ac arlywydd yr Unol Daleithiau Donald Trump ochr yn ochr â 300 o gyn-filwyr i gofio.

Mae disgwyl i 60,000 o bobol ymuno yng Nghofeb Byddin Portsmouth i’r digwyddiad sy’n nodi pen-blwydd un o’r goresgyniadau mwyaf mewn hanes.

Ar Fehefin 6 yn 1944, lladdwyd miloedd fel rhan o Operation Overlord yn yr Ail Ryfel Byd – pan milwyr ar draws y môr i Normandi i atal milwyr Almaen rhag cyrraedd gwledydd Prydain.

Fe fydd Theresa May yn gwneud ei hymddangosiad olaf fel Prif Weinidog pan fydd y seremoni yn parhau fory ar draws Normandi.