Mae swyddogion yr heddlu sy’n ymchwilio i lofruddiaeth dyn, 74, yn ei gartref ym Môn, wedi bod yn archwilio cyfres o dai ar yr ynys

Cafodd Gerald Corrigan ei saethu â bwa croes y tu allan i’w gartref mewn ardal anghysbell ger Caergybi am tua 12.25yb ar Ebrill 19 wrth iddo addasu safle ei loeren.

Cafodd y pensiynwr ei anafu’n ddifrifol yn ystod y digwyddiad a bu farw’n ddiweddarach ar Fai 11.

Bu ditectifs yn ymweld â nifer o gyfeiriadau yn ardal Caergybi yn gynnar fore ddoe (dydd Mawrth, Mehefin 4).

“Nid oes neb wedi eu harestio yn dilyn yr ymchwiliadau, sy’n rhan o nifer o ymholiadau parhaus yng nghyswllt llofruddiaeth Gerald Corrigan,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru.

“Rydym yn parhau i ymchwilio i wybodaeth a roddwyd i ni gan y cyhoedd yng nghyswllt marwolaeth Gerald.

“Dw i’n argyhoeddedig mai’r cyhoedd sydd â’r ateb i’r drosedd erchyll hon. Hoffwn annog pobol sy’n agos at yr un neu’r rhai sy’n gyfrifol i ddod i siarad â mi neu’r tîm ymchwilio yn gyfrinachol.”