Mae saith o bobol wedi eu cadarnhau’n farw ar ôl i long bleser suddo ym mhrifddinas Hwngari, Bwdapest, neithiwr (nos Fercher, Mai 29).

Roedd y llong ar afon Donaw yn cario 33 o deithwyr o Dde Corea, ac mae swyddfa dramor y wlad honno wedi cadarnhau bod 19 o’i dinasyddion yn dal i fod ar goll.

Mae’n debyg mai achos y ddamwain oedd dwy long yn gwrthdaro â’i gilydd, a hynny ar adeg pan mae glaw trwm wedi cynyddu llif yr afon.

Fe ddaethpwyd o hyd i’r llong y bore yma ar wely’r afon ger Pont Margit – nid nepell o senedd Hwngari.

Ond yn ôl un adroddiad, fe gafodd un teithiwr ei achub ger Pont Petofi, sydd tua dwy filltir i’r de o’r senedd.

Mae achubwyr, sy’n cynnwys y fyddin a deifwyr, yn dal i chwilio’r afon am unrhyw oroeswyr.