Mae grŵp o blismyn yn y gogledd wedi bod yn cerdded i fyny’r Wyddfa yn ystod oriau mân y bore heddiw (dydd Iau, Mai 30) er mwyn codi arian tuag at achos da.
Roedd aelodau o staff a swyddogion Heddlu Gogledd Cymru yn codi arian er mwyn helpu tair elusen, sef Hafal, Gofal am Oroeswyr yr Heddlu (COPS) a Chanolfannau Triniaeth yr Heddlu.
Roedd y daith hefyd rhan o ymgyrch sy’n annog pobol sydd â chysylltiad â’r heddlu i siarad Cymraeg
wrth iddyn nhw gerdded er mwyn ymarfer corff.
“Mae’r Clwb Cerdded Cymraeg wedi bod mewn bodolaeth ers dros ddwy flynedd bellach ac mae’n
gyfle gwych i bobol ymarfer a defnyddio eu Cymraeg yng nghwmni dysgwyr eraill a siaradwyr
Cymraeg mewn amgylchfyd cefnogol,” meddai’r Rhingyll Tom Prytherch.