Digartrefedd a bywyd ar strydoedd Caerdydd yw thema drama fuddugol Mared Roberts yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro 2019.

“Fi jest yn cerdded o gwmpas Caerdydd, a chi fili help sylweddoli ar y pebyll o’ch cwmpas,” meddai Mared Roberts.

“Pan chi’n gweld y siopau designer mawr a chi’n gweld y pebyll tu fas ble dyw pobol ffaelu prynu sanau – ma’ fe’n taro chi, a’r cyferbyniad ar ddynoliaeth.”

Mae’r gyn-fyfyrwraig ym Mhrifysgol Caerdydd wedi sylweddoli bod cynnydd yn nifer y bobol ddigartref ar strydoedd y brifddinas ers iddi gyrraedd yno chwe blynedd yn ôl.

“Pan chi’n clywed bod pebyll yn cael eu tynnu, mae e’n warthus ac yn poeni fi.”

Persbectif

“Ro’ ni moyn bod e’n realistig,” meddai Mared Roberts wedyn. “Wnes i ddigwydd bod gweld rhaglen ar fenywod digartref ar y stryd a gweld gyda’r misglwyf pa mor beryglus yw e i fenyw fod mas tu fas.”

Roedd hi’n anodd ar ôl hynny ceisio ysgrifennu’r ddrama a rhoi ychydig o ysgafnder ynddi, felly fe geisiodd hi wneud hynny trwy’r dafodiaith.

“Fi’n credu bod eisiau mwy o amrywiaeth, a mwy o leisiau, fel bod mwy o bersbectif gyda phobol am wahanol bethau.”

Fe fydd Mared Roberts nawr yn treulio cyfnod gyda chwmni Theatr Genedlaethol Cymru ac yn derbyn hyfforddiant pellach gyda BBC Cymru, yn ogystal â threulio amser gydag S4C.