Mared Roberts o Bentre’r Bryn, ger Cei Newydd, yw enillydd Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd 2019.

Mae’r ferch bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn gyfeithydd gyda’r Gwasanaeth Iechyd, a trafod digartrefedd y brifddinas mae’r gwaith.

Fe astudiodd Mared Roberts ym Mhrifysgol Caerdydd chwe blynedd yn ol ar ol bod yn ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Teifi.

Daeth yn ail yng nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod yr Urdd y llynedd ac mae wedi ennill coron ddwywaith yn olynol yn Eisteddfod Ryng-golegol Cymru.

Fel rhan o’r ail wobr y llynedd, cafodd gyfle i fynd ar ‘Gwrs Olwen’ yng nghanolfan ysgrifennu Tŷ Newydd, ac mae’n dweud iddi elwa’n fawr o’r profiad o gael arweiniad gan lenorion profiadol.

Mae’n diolch yn arbennig i’w thaid, Gruffudd Roberts, sydd wedi bod yn ddylanwad mawr wrth gynnau ei diddordeb mewn trin geiriau.