Mae nifer o bêl-droedwyr Sbaen wedi cael eu harestio ar gyhuddiadau o dwyllo a fficsio gemau.

Mae’r gynghrair yn dweud fod y chwaraewyr wedi’u dwyn i’r ddalfa yn dilyn ymchwiliad swyddogol.

Mae asiantaeth newyddion Europa Press yn adroddd fod dau o’r chwaraewyr sy’n cael eu hamau yn chwarae i dimau’r uwch gynghrair.

Yn ôl llefarydd ar ran y gynghrair, fe fu’n rhaid iddyn nhw riportio wyth achos honedig o dwyllo i’r heddlu yn ystod tymor 2018/19, a deunaw achos arall o chwaraewyr yn betio ar ganlyniadau gemau.