Fe sgoriodd Phil Salt, sy’n enedigol o Gymru, ganred i Sussex ar ddiwrnod cynta’r gêm Bencampwriaeth yn erbyn Morgannwg yn Hove.
Dyma bedwerydd canred ei yrfa, ac mae’n dilyn canred yn erbyn Swydd Northampton yr wythnos ddiwethaf.
Erbyn diwedd y dydd, roedd y tîm cartref yn 208 am bump, ar ôl bowlio Morgannwg allan am 186 yn eu batiad cyntaf.
Batio gwael gan y Cymry
Cariodd Nick Selman, agorwr Morgannwg, ei fat gyda 79 wrth i’r Cymry gael eu bowlio allan mewn 55.2 o belawdau.
Dyma’r ail waith i’r agorwr ifanc gario’i fat i’r sir.
Daeth yr unig bartneriaeth o werth i Forgannwg gan Nick Selman a Graham Wagg, oedd wedi ychwanegu 72 at y sgôr mewn 22 pelawd, wrth i’r Cymry golli wiced ar ôl wiced.
Cyrhaeddodd Nick Selman 2,000 o rediadau dosbarth cyntaf yn ystod ei fatiad, ond fe gollodd ei bartner Graham Wagg am 44, pan gafodd ei ddal gan y wicedwr Ben Brown oddi ar fowlio Chris Jordan, oedd wedi cipio tair wiced i gyd.
Cipiodd Jared Warner dair wiced hefyd yn ei gêm Bencampwriaeth gyntaf i’r sir.
Erbyn i’r batiad ddod i ben, roedd Nick Selman wedi wynebu 156 o belenni, gan daro 11 pedwar.
Roedd wedi cynnig achubiaeth o fath i Forgannwg, oedd wedi bod yn 44 am bedair yn gynnar yn y batiad, diolch i fowlio cywir gan Mir Hamza a David Wiese.
Sussex yn dangos sut i fatio
Tra bod Morgannwg, unwaith eto, wedi cael anawsterau ar lain Hove, dangosodd batwyr Sussex iddyn nhw sut i fatio yno.
Ychwanegodd Phil Salt a Luke Wells 85 mewn 15 pelawd, ond fe gollodd Luke Wells ei wiced wrth fachu yn erbyn Dan Douthwaite, y wiced gyntaf o bedair mewn deg pelen i’r Cymry i gyfyngu’r Saeson i 126 am bedair.
Er i Phil Salt gyrraedd ei ganred, fe gollodd ei wiced ym mhelawd ola’r dydd, pan gafodd ei ddal gan y wicedwr Tom Cullen oddi ar fowlio Dan Douthwaite am 103.
Roedd wedi ychwanegu 82 mewn 17 pelawd i’r Saeson gyda’r capten Ben Brown i sicrhau bod y tîm cartref ar y blaen o drwch blewyn, ond gyda digon o wicedi wrth gefn.