Mae 11 o bobol wedi cael eu saethu’n farw mewn bar ym mhrifddinas talaith Ogleddol Para yn Brasil.
Yn ôl asiantaeth diogelwch y wlad mae chwe dynes a phum dyn wedi cael eu lladd yn y digwyddiad yn ardal Guama ym mhrifddinas Belem.
Roedd saith person arfog yn rhan o’r ymosodiad a chafodd un ohonyn nhw eu hanafu.
Ar ddiwedd mis Mawrth fe anfonodd y Llywodraeth filwyr i Belem i gynyddu diogelwch yno am 90 diwrnod.
Cyfraith gynnau
Yn 2017, roedd nifer y dynladdiadau ym Mrasil wedi cyrraedd ei lefel uchaf erioed – 64,000 – gyda 70% yn ymwneud a gynnau.
Un o addewidion pennaf ymgyrch arlywydd newydd Brasil, Jair Bolsonaro yw llacio cyfreithiau gynnau.
Ei ddadl yw bod troseddwyr ym meddiant gynnau anghyfreithlon a bod angen i bobol allu amddiffyn eu hunain gyda gynnau cyfreithlon.
Mae Jair Bolsonaro wedi cadw at yr addewid hwnnw gan sicrhau ei bod yn haws i gael mynediad at ynnau.