Am y tro cyntaf ers 40 mlynedd fe fydd gwasanaeth trên yn syth o ogledd Cymru i Lerpwl yn dechrau.
Mae’r Metro Mayor a phartneriaid eraill yn croesawu’r gwasanaeth newydd bore heddiw (Dydd Llun, Mai 20) rhwng Wrecsam a Lerpwl.
Mae hi’n cael ei chynnal gan Trafnidiaeth Cymru a bydd y gwasanaeth newydd yn teithio trwy Gaer, Helsby, Frodsham, Runcorn a Liverpool South Parkway ar y ffordd.
Fe fydd y gwasanaeth newydd yn cael ei gynnal o ddydd Llun i ddydd Sadwrn bob wythnos, gyda dau drên yn mynd o Lerpwl i Wrecsam bob dydd, ac un yn mynd y ffordd arall.
“Cam hanesyddol”
Bydd y gwasanaeth newydd yn creu 250,000 taith newydd gan neilltuo’r angen am 170,000 o deithiau lôn.
Mae gobaith y bydd y cynllun yn rhoi lles ariannol enfawr i’r ardal ac mae cynlluniau’r dyfodol yn gweld mwy o deithiau trên i Gymru, gyda rhai yn teithio i Gaerdydd trwy’r Amwythig a Llandudno.
“Mae Llywodraeth gwledydd Prydain yn cefnogi Gogledd Cymru ym mhob ffordd y gallai, gan gynnwys cefnogi arweinwyr lleol i greu swyddi a chreu twf trwy Fargen Twf Gogledd Cymru a Phwerdy’r Gogledd,” meddai Ysgrifennydd Cartref Cymru, Alun Cairns.
“Cyfleoedd economaidd y chymdeithasol”
“Mae miloedd o gymudwyr yn teithio rhwng Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr bob dydd sy’n golygu bod rheilffordd ardderchog yn hanfodol i’r economi ar ddwy ochr y ffin,” meddai’r Gweinidog Trafnidiaeth, Ken Skates.
“Drwy ddarparu 215 o wasanaethau newydd yr wythnos, byddwn yn cryfhau cysylltiadau â’n cymdogion a fydd yn creu cyfleoedd economaidd a chymdeithasol pwysig.
Bydd gwella mynediad hefyd yn rhoi hwb i’n cymunedau lleol a’n sector twristiaeth ranbarthol, gan ddenu mwy o ymwelwyr i Gymru.”