Mae disgwyl i Theresa May ddechrau trafodaethau gydag uwch weinidogion ynglŷn â’i chynnig newydd i Aelodau Seneddol, mewn ymdrech olaf i sicrhau bod ei chytundeb Brexit yn cael ei gymeradwyo gan y Senedd.
Yn y cyfarfod wythnosol o’r Cabinet ddydd Mawrth mae disgwyl i weinidogion gymeradwyo pecyn o fesurau a fydd yn cael eu cynnwys yn y Bil Ymadael a’r Undeb Ewropeaidd (UE), mewn ymdrech i gael cefnogaeth drawsbleidiol.
Serch hynny, mae ’na amheuaeth yn San Steffan na fydd y cynnig newydd yn cael gwell cefnogaeth na’r tri blaenorol yn Nhŷ’r Cyffredin.
Yn dilyn methiant y trafodaethau gyda’r Blaid Lafur wythnos ddiwethaf , dywedodd Jeremy Corbyn nad oedd wedi gweld unrhyw beth newydd a fyddai’n i berswadio i’w gefnogi.
Daw hyn wrth i’r Ceidwadwyr ddisgwyl canlyniadau siomedig yn yr etholiadau Ewropeaidd ddydd Iau.