Mae diffoddwyr wedi bod yn brwydro tân mawr dros nos sydd wedi cydio yn y Bontfaen, ym Mro Morgannwg ar safle gwerthu cynnyrch coed.

Cafodd y gwasanaeth tân eu galw am 11.25yh neithiwr (nos Sul, Mai 19) yn dilyn adroddiadau am dân ar safle Forest Products.

Mae tua 20 o ddiffoddwyr tân a swyddogion tactegol ynghyd a naw injan dân wedi bod yn ceisio diffodd y tân drwy’r nos. Nid oes unrhyw un wedi cael eu hanafu.

Mae preswylwyr lleol yn cael eu cynghori i aros yn eu cartrefi a chau eu ffenestri oherwydd y mwg.

Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru mae’r criwiau yn gweithio’n galed i sicrhau nad yw’r tân yn lledaenu i adeiladau cyfagos.