Mewn cyfweliad cyn iddo farw, roedd tad Emiliano Sala wedi beirniadu’r ffordd y cafodd y pêl-droediwr ei drin gan y clybiau pêl-droed a’u hasiantaethau.

Roedd Emiliano Sala, 28 oed, wedi arwyddo i Glwb Pêl-droed Caerdydd o Nantes yn Ffrainc mewn cytundeb gwerth £15 miliwn.

Fe ddiflannodd gyda pheilot yr awyren fechan pan blymiodd i’r môr ger Guernsey ar Ionawr 21 ar ei ffordd o Nantes i Gaerdydd.

Cafodd ei gorff ei ddarganfod ar Chwefror 6 yn dilyn ymgyrch fawr i ddod o hyd i’r pêl-droediwr. Nid yw corff y peilot David Ibbotson, 59, o Swydd Lincoln wedi cael ei ddarganfod.

Bu farw Horacio Sala ym mis Ebrill ond mewn cyfweliad gyda BBC Wales cyn ei farwolaeth dywedodd y dylai’r rhai oedd yn gyfrifol am y cytundeb – gan gynnwys y clybiau a’u hasiantaethau – fod wedi gwneud mwy o ymdrech i ofalu am les ei fab.

“Roeddwn i wastad yn disgwyl iddyn nhw ddod o hyd iddo’n fyw ond pan ddaeth y newyddion bod yr awyren yn y môr, roedd yn amhosib.

“Pam ei fod mor anodd iddyn nhw ddod o hyd i rywbeth diogel? Fe wnaethon nhw ei adael ar ei ben ei hun, ei adael wrth ei hun fel ci,” meddai Horacio Sala.

Dywedodd mam y pêl-droediwr o’r Ariannin, Mercedes Taffarel, fod “y boen yn rhywbeth na alla’i esbonio.”

Mae’r teulu eisiau i rywun gael eu dwyn i gyfrif am ei farwolaeth, meddai’r BBC.

Fe fydd ymchwiliad i achos y ddamwain awyren yn canolbwyntio ar ddilysrwydd trwydded y peilot.