Y Bala 1–1 Met Caerdydd (1-3 i Met ar g.o.s)
Met Caerdydd a aeth â safle olaf Uwch Gynghrair Cymru yng Nghynghrair Europa’r tymor nesaf ar ôl trechu’r Bala yn rownd derfynol y gemau ail gyfle ar Faes Tegid nos Sul.
Wedi iddi orffen yn gyfartal, gôl yr un, wedi naw deg munud, roedd angen amser ychwanegol a chiciau o’r smotyn cyn i’r Myfyrwyr fynd â hi gyda chic Eliot Evans.
Dechreuodd Met Caerdydd yn dda ond gwastraffodd Adam Roscrow gyfle da i’w rhoi ar y blaen pan beniodd yn erbyn y postyn o groesiad Eliot Evans wedi deuddeg munud.
Y Bala yn hytrach a aeth ar y blaen wedi ugain munud, Henry Jones yn ymateb yn gynt na neb ac yn canfod y gornel isaf wedi i beniad gwan Kieran Smith o groesiad Nathan Burke wyro i’w lwybr yn y cwrt chwech.
Wnaeth hi ddim aros felly yn hir ac roedd y Myfyrwyr yn gyfartal o fewn pedwar munud, Eliot Evans yn unioni wedi i Keighan Jones yn y gôl i’r Bala wthio ergyd Will Evans i’w lwybr yn y cwrt cosbi.
Cafodd y ddau dîm gyfnodau da yn yr ail hanner ond prin a oedd y cyfleoedd clir yn y ddau ben a doedd dim amdani ond amser ychwanegol i geisio’u gwahanu.
Cafodd Met Caerdydd gyfle euraidd i’w hennill hi yn hanner cyntaf yr amser ychwanegol ond llwyddodd Chris Baker i benio’n erbyn y trawst o dair llath yn unig.
Os mai’r myfyrwyr a gafodd gyfle gorau’r hanner cyntaf, y Bala heb os a ddaeth agosaf wedi’r egwyl. Roedd angen arbediad da gan Will Fuller i atal ergyd isel Anthony Stephens a pheniodd Stuart Jones a Mike Hayes yn erbyn y trawst o fewn eiliadau i’w gilydd.
Ond nid oedd gôl i fod yn yr hanner awr ychwanegol ac roedd angen ciciau o’r smotyn i setlo pethau.
Ciciau o’r smotyn
Nid oedd y ciciau o’r smotyn o’r safon uchaf, nid y rhai cyntaf o leiaf a dim ond un i ddim a oedd hi wedi chwe chynnig.
Cafodd ciciau gwael Kyle McCarthy a Will Evans i’r Met eu harbed gan Keighan Jones. Yn y cyfamser fe gafodd cynigion Nathan Burke a Mike Hayes eu harbed gan Fuller ac fe aneolodd yr arferol ddibynadwy Chris Venables ei gic yntau ym mhell dros y trawst.
Fe wellodd pethau wedi hynny gydag Emlyn Lewis i’r Met a Stephens i’r Bala yn codi’r safoon gyda’u ciciau cywir hwy.
Dwy i un i’r tîm o Gaerdydd gydag un yn weddill felly a chic i’w hennill hi i Eliot Evans. Ni chafodd seren y Met ei gêm ddisgleiriaf ond roedd yn gywir ei annel o ddeuddeg llath.
Golygodd hynny mai Met Caerdydd a fydd yn ymuno â’r Seintiau Newydd, Cei Connah a’r Barri fel cynrychiolwyr Cymru yn Ewrop y tymor nesaf, tipyn o gamp i dîm a gododd i’r Uwch Gynghrair dri thymor yn unig yn ôl.
.
Y Bala
Tîm: K. Jones, Burns, S. Smith, Jones, Miley, Burke, Hayes, K. Smith, Gosset (Stephens 105’), Venables, H. Jones (Horwood 106’)
Gôl: H. Jones 20’
Cardiau Melyn: Venables 39’, S. Jones 70’, Horwood 114’
.
Met Caerdydd
Tîm: Fuller, Rees, McCarthy, Woolridge, Lewis, E. Evans, Baker, Roscrow (Flay 100’), W. Evans, Edwards, Morgan (Spencer 60’)
Gôl: E. Evans 24’
Cerdyn Melyn: W. Evans
.
Torf: 623