Mae cyn-newyddiadurwraig oedd yn ymgynghorydd i Lywodraeth Afghanistan wedi cael ei saethu gan ddynion arfog yn Kabul.
Roedd Mena Mangal wedi bod yn ymgynghori haen isa’r llywodraeth ac roedd hi’n teithio i’r gwaith pan gafodd hi ei lladd fore heddiw (dydd Sadwrn, Mai 11).
Mae lle i gredu bod y dynion arfog wedi ffoi yn dilyn y digwyddiad.
Mae’r heddlu’n cynnal ymchwiliad, ond does neb wedi hawlio cyfrifoldeb hyd yn hyn.