Mae newyddiadurwr sydd wedi beirniadu Llywodraeth Twrci a’r Arlywydd Recep Tayyip Erdogan wedi cael ei gludo i’r ysbyty yn dilyn ymosodiad arno.
Fe ddigwyddodd yr ymsodoiad y tu allan i gartref y colofnydd Yavuz Selim Demirag.
Yn ôl papur newydd Yenicag, cafodd ei daro â batiau pêl-fas gan bump neu chwech o bobol.
Daw’r ymosodiad yn dilyn ei ymddangosiad diweddaraf ar deledu yn y wlad ddoe (dydd Gwener, Mai 10).
Mae cryn ddadlau yn y wlad ar hyn o bryd yn dilyn penderfyniad yr awdurdodau etholiadol i ddileu canlyniad etholiad maer Istanbwl, a gorchymyn fod yr etholiad yn cael ei gynnal eto ar Fehefin 23.
Mae’r llywodraeth wedi gwneud honiadau o lygredd, tra bod yr wrthblaid yn honni bod y llywodraeth wedi pwyso’n annheg ar yr awdurdodau etholiadol.