Mae cannoedd o bobol yn ymgasglu yng Nghaerdydd heddiw (dydd Sadwrn, Mai 11) i orymdeithio tros annibyniaeth i Gymru.
Bydd yr orymdaith, y gyntaf o’i math yng Nghymru ac sy’n cael ei chydlynu gan fudiad Pawb Dan Un Faner, yn gadael Neuadd y Ddinas am 1.30yp, ac yn ymlwybro tuag at y Llyfrgell Ganolog yn yr Ais.
Ymhlith y mudiadau sy’n cymryd rhan mae Yes Cymru, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Cefnogwyr Pêl-droed tros Annibyniaeth, Llafur tros Gymru Annibynnol, Yes is More, Undod ac Awoken Cymru.
Yn ymuno â nhw ar y daith fydd cynrychiolwyr o grwpiau annibyniaeth yn yr Alban.
Ar ddiwedd yr orymdaith, fe fydd nifer o siaradwyr yn annerch y dorf, gan gynnwys Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, yr actores Carys Eleri, Ben Gwalchmai o Lafur tros Gymru Annibynnol, Siôn Jobbins o Yes Cymru, Sandra Clubb o Undod a’r bardd Ali Goolyad.
Diolch o galon i @YesCymruDre am y fideo pwerus yma yn hyrwyddo’r Orymdaith dros Annibyniaeth yng Nghaerdydd dydd Sadwrn YMA #Annibyniaeth
Massive thanks to #YesCaernarfon for this powerful video promoting the @AUOBCymru March for Independence in Cardiff this Saturday #indyWales pic.twitter.com/iKqDW3KRfy
Yn wylaidd fe dawelwn – yn rhy aml
Rhown rhyw wên, na phechwn!
Rhoi argraff saff heb wneud sŵn…
Ond weithiau gorymdeithiwn.#indyWales #Annibyniaeth @YesCymru @YesAbertawe pic.twitter.com/z4jOujMafK— Huw Dylan Owen (@Gurfal) May 11, 2019
— YesCymru 🏴 (@YesCymru) May 8, 2019
Pobl ar y bysus ar y ffordd lawr i Gaerdydd. People on our bus down to Cardiff for the #indyWales march. #AUOBCymru @YesCymru pic.twitter.com/Ub21dGw3Ds
— Bailey (@Bailey83M) May 11, 2019
Bws @YesCymru ar y ffordd i Gaerdydd ar gyfer yr orymdaith @AUOBCymru.
On our way down from out West. See you all in Cardiff for the @AUOBCymru march. Have a safe trip! #CofiwchDryweryn #AUOBCymru pic.twitter.com/wRDexN4OIJ
— YesCymruAber (@AberYesCymru) May 11, 2019
🚍 Ar y lôn. Diwrnod braf am #Annibyniaeth
🚍 On the road. A lovely day for #IndyWales@AUOBCymru @YesCymru #AUOBCymru pic.twitter.com/HH8VN55L7x— YesCymruCaernarfon (@YesCymruDre) May 11, 2019
Prif fantais o deithio o Gaergybi i Gaerdydd ar fws ydy cael y cyfle i fwynhau a gwerthfawrogi faint mor hyfryd, ysblennydd a godidioig ydy #Cymru drwyddi draw. @YesCymru #AUOBCymru pic.twitter.com/lTDdfgvEBE
— Vaughan Williams 🏴🇮🇪🇪🇺 (@Vaughan_Wms) May 11, 2019
Barod amdani @YesCymru @AUOBCymru @NationCymru #Annibyniaeth pic.twitter.com/KFm2PaX5Q2
— Alys Williams (@alys_williams1) May 11, 2019