Mae Gogledd Corea wedi saethu nifer o daflegrau i’r môr oddiar ei arfordir dwyreiniol, medd De Corea.

Os daw cadarnhad o’r digwyddiad, dyma’r tro cyntaf ers i’r Gogledd brofi taflegrau o’r fath ers mis Tachwedd 2017.

Y flwyddyn honno gwelwyd y wlad yn cynnal nife o brofion gyda Arlywydd yr Unol Daleithiau yn ymateb yn gwerylgar gyda nifer yn ofni y bydde yn arwain at ryfel.

Dywedodd De Corea fod y taflegrau wedi teithio 125 milltir cyn disgyn i’r môr.

Dywed rhai arbenigwyr y gall y Gogledd gynnyddu y math yma o bryfocio er mwyn rhoi pwysau ar yr Unol Daleithiau i gytuno i leihau sancsiynau sy’n cael effaith andwyol arnyn nhw.

Daw’r digwyddiad ynghanol methiant yn y trafodaethau a’r gynhadledd yn gynharach rhwng Mr Trump ag arweinydd Gogledd Corea Kim Jong Un ynghylch bwriad y Gogledd i gael bomiau niwcliar a all dargedu yr Unol Daleithiau.