Mae protestiadau yn erbyn addysg LHDT mewn ysgolion yn rhan o “ymgyrch wedi ei drefnu” ar draws y Deyrnas Gyfunol, fe honiwyd.
Clywodd Cymdeithas Cenedlaethol y Prifathrawon (NAHT) yn eu cynhadledd flynyddol yn Telford fod gwrthdystiadau yn cael eu cynnal gan wrthwynebwyr i blant gael eu dysgu am berthynasau un rhyw.
Fe basiwyd cynnig yn unfrydol yn galw ar i’r pwyllgor cenedlaethol gydweithio gyda chyrff penodedig i ddatblygu a lobio ar gyfer polisi cadarnach a chefnogaeth i ysgolion.
Dywedodd aelod o bwyllgor yr NAHT Dave Woods fod prifathrawon yn Ealing, Llundain wedi derbyn ebyst a cheisiadau i dynnu’n ôl gan rieni.
Meddai: “Dywedodd un pennaeth ei fod o wedi cael ei amgylchynu gan 20 o rieni yn hawlio cyfarfod yn y fan a’r lle.
Ychwanegodd: “Mae perthnasoedd i bawb. Dyda ni ddim yn ymgynghori ar fathamateg, dyda ni ddim yn ymgynghori ar Saesneg, dyda ni ddim yn ymgynghori ar unrhyw bwnc, a d’oes dim rhaid inni ymgynghori ar berthnasoedd.”
Yn gynharach heddiw, dywedodd pennaeth Ofsted Amanda Spielman ei bod hi’n “annerbyniol” i athrawon ac ysgolion gael eu bygwth.