Fe wnaeth awyren jet yn cludo 143 o bobl o faes militaraidd Americanaidd yng Nghiwba lanio mewn afon yn Jacksonville.

Roedd yr awyren Boeing 737 wedi hedfan o Fae Guantanamo, Ciwba pan geisiodd lanio yn Fflorida yn ystod storm daranau. Ond yn lle hynny, fe laniodd yn yr afon wrth ymyl Gorsaf Awyr Forwrol Jacksonville.

Dywedodd yr awdurdodau fod pawb wedi llwyddo i ddianc o’r ddamwain heb ddioddef unrhyw anafiadau difrifol – gyda nifer yn dringo ar ben adenydd yr awyren cyn cael eu hachub.

Dywedwyd fod lefel y dŵr yn afon Sant Johns ar y pryd yn weddol isel. Roedd saith o aelodau’r criw ar yr awyren hefyd.

Aed ag 21 o oedolion i ysbytai lleol gyda man anafiadau.

Dywedodd Capten Michael Connor, prif swyddog NAS Jacksonville: “Dwi’n meddwl ei fod o’n wyrth. Gallai ni fod yn siarad am stori wahanol heno.”

Nid yw’n glir eto beth aeth o’i le.

Fe ruthrodd dwsinau o achubwyr i’r fan yn syth wedi’r ddamwain.

Mae ymchwiliad nawr wedi dechrau