Cafodd placiau er cof am ddau o ymgyrchwyr streic y glowyr, wnaeth helpu ysbrydoli ffilm Pride, gael eu gosod yn Nyffryn Dulais heddiw (ddydd Sadwrn).
Roedd Mark Ashton yn flaenllaw yng ngrŵp Lesbiaid a Hoywon sy’n Cefnogi’r Glowyr yn ystod y streic yn 1984.
Roedd Hefina Headon yn ysgrifennydd Grŵp Cefnogi’r Glowyr.
Bydd y ddau yn cael eu cofio gyda’r placiau ar Neuadd Les y Glowyr yn Onllwyn, Castell-nedd Port Talbot.
Daeth aelodau grŵp Lesbiaid a Hoywon sy’n Cefnogi’r Glowyr i’r seremoni oedd yn dilyn gorymdaith Pride Abertawe.
Cafodd bywydau Mr Ashton a Ms Headon eu portreadu yn y ffilm Pride yn 2014 – a enillodd Bafta am y ffilm gyntaf orau gan ysgrifennwr, gyfarwyddwr neu gynhyrchydd o Brydain.
Fe wnaeth Mr Ashton helpu ffurfio’r grŵp, i godi arian i ddarparu bwyd a chefnogaeth i lowyr oedd yn streicio a’u teuluoedd.
Bu farw yn 1987 yn ddim ond 26 oed.
Neuadd Les y Glowyr yn Onllwyn oedd canolbwynt y gymuned yn ystod y streic, a dyma hefyd oedd pencadlys Grŵp Cefnogi’r Glowyr yn yr ardal.
Cafodd dros 4,000 o bobl eu bwydo yno, a £350,000 ei godi yn ystod y streic.
Bu farw Ms Headon yn 2013, cyn iddyn nhw ddechrau ffilmio.