Aeth protestwyr Gwrthryfel Difodiant (Extinction Rebellion XR) Gogledd Cymru i chwifio eu baner yng Nghonwy i godi ymwybyddiaeth am newid hinsawdd.
Roedd y digwyddiad yn gynharach heddiw wedi ei drefnu i godi ymwybyddiaeth yn sir Conwy o fewn dyddiau i gyfarfod ddydd Iau yma, Mai 9fed, pan fydd Cyngor Conwy yn ystyried cynnig o ddatganiad argyfwng hinsawdd.
Mae Cyngor Gwynedd eisoed wedi gwneud datganiad o argyfwng ac mae cynnig gerbron cynghorwyr Conwy yr wythnos nesaf.
Codwyd y faner fawr werdd ar y bont ger y castell ac agorwyd hi allan hefyd ar y lawnt o flaen y castell.
Daeth tua 20 o gefnogwyr XR ynghyd i gymryd rhan yn y weithred.
Dywedodd llefarydd ar ran XR Gogledd Cymru: “Rydym yn mawr obeithio y bydd Cyngor Conwy yn dilyn Cyngor Gwynedd ac yn datgan argyfwng hinsawdd. Byddwn wedyn yn cadw golwg barcud ar sut fydd y cynghorau yn mynd ati i weithredu yn wahanol o ganlyniad i wneud y datganiad.”
Mae’r mudiad wedi trefnu gorymdaith fydd yn dechrau ger gorsaf drenau Conwy fore dydd Mercher am 8.50yb a fydd yn anelu at swyddfeydd Cyngor Conwy i ddangos eu teimladau ac i rannu eu barn gyda’r cynghorwyr cyn y cyfarfod.