Nid oedd gwybodaeth a ryddhawyd o gyfarfod cyfrinachol o’r Cyngor Diogelwch Cenedlaethol am gwmni Huawei o Tsieina yn torri Ddeddf  Cyfrinachau Swyddogol.

Dyna ddywedwyd y pnawn ’ma gan Gomisiynydd Cynorthwyol yr Heddlu Metropolitan, Neil Basu.

Dywedodd, felly, nad oedd y wybodaeth a ryddhawyd yn gyfystyr â throsedd.

Mewn datganiad, dywedodd Mr Basu: “Rwyf wedi siarad gyda Swyddfa’r Cabinet ynghylch natur a chynnwys y drafodaeth yn y Cyngor Diogelwch Cenedlaethol. Roedd y defnydd yn cael ei ddefnyddio i lywio trafodaeth, gyda’r canlyniad wedyn yn cael ei ddatgelu i’r cyfryngau.

“Rydw i yn fodlon fod beth gafodd ei ddatgelu ddim yn cynnwys gwybodaeth a fyddai yn torri’r Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol.”

Ychwanegodd nad oedd y weithred chwaith yn dangos unrhyw gamymddwyn mewn swyddfa gyhoeddus.

Daw’r datganiad yn dilyn galwadau am ymchwiliad gan yr heddlu ar ôl i’r Ysgrifennydd Amddiffyn, Gavin Williamson, gael ei ddiswyddo o Gabinet Llywodraeth Prydain ddydd Mercher, Mai 1.

Y Blaid Lafur oedd ymhlith yr amlycaf a alwodd am weithredu gan yr heddlu wrth iddyn nhw gyhuddo Mr Williamson o fynd yn groes i’r Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol ar ôl datgelu gwybodaeth am Huawei.

Mae’r cyn-Ysgrifennydd Amddiffyn wedi gwadu rhyddhau unrhyw wybodaeth i bapur newydd, gan ychwanegu y byddai unrhyw ymchwiliad gan yr heddlu yn clirio ei enw.

Roedd y wybodaeth a gyhoeddwyd yn awgrymu fod Theresa May wedi rhoi rhwydd hynt i Huawei i fod a rhan mewn elfennau “anghreiddiol” o’r rhwydwaith 5G tebyg i antenae.

Yn ôl adroddiadau yn y Daily Telegraph, fe ddiystyrodd Mrs May gyngor gan bump gweinidog oedd wedi crybwyll eu pryder y gallai cyfranogiad y cwmni ddarparu modd i ysbïo gan Tsieina a fyddai’n tanseilio hyder cynghreiriaid yn niogelwch systemau cyfathrebu y Deyrnas Gyfunol.

Cafodd Gavin Williamson ei ddiswyddo fel ysgrifennydd amddiffyn wedi i Mrs May ddweud fod yna “dystiolaeth cymhellol” mai fo oedd y tu cefn i ryddhau’r wybodaeth – er ei fod wedi gwadu hynny.