Mae llanc 17-mlwydd-oed wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddio merch yn ei harddegau mewn tref yn Swydd Wiltshire.

Galwyd am gymorth y gwasanaethau brys i dy yn Springfield Drive, Calne, bnawn Gwener ond bu farw’r ferch yn y fan a’r lle er gwaetha ymdrechion pawb.

Yn ddiweddarach cafodd llanc 17 oed ei arestio yn ardal Chippenham ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Mae o nawr yn y ddalfa tra mae’r heddlu yn parhau a’u hymchwiliadau.

Mae tref Calne tua 30 milltir o Fryste a llai na 20 milltir o Bath.