Mae nifer y meirw yn yr ymosodiadau ar ddau fosg yn Christchurch wedi codi i 51 ar ôl i ddyn o Dwrci farw yn yr ysbyty, saith wythnos ers y digwyddiad.
Roedd Zekeriya Tuyan, 46 oed, wedi bod mewn cyflwr difrifol ers i ddyn arfog danio gwn at bobl ym mosg Al Noor ar 15 Mawrth.
Cafodd ei farwolaeth ei gadarnhau gan yr awdurdodau yn Nhwrci a Seland Newydd.
Dywedodd prif weinidog Seland Newydd Jacinda Ardern y byddai’r newyddion trist yn cael ei deimlo ar draws y ddwy wlad.
Mae’r berthynas rhwng Twrci a Seland Newydd wedi bod dan straen ers yr ymosodiad ar ôl i Arlywydd Twrci Tayyip Erdogan ddangos llif byw o fideo o’r ymosodiad mewn ymgyrchoedd etholiadol er mwyn tynnu sylw at gasineb yn erbyn Islam.
Ond mae’r awdurdodau yn Seland Newydd wedi gwahardd y fideo a gallai unrhyw un sy’n cael eu dal yn rhannu’r fideo yn Seland Newydd wynebu 14 mlynedd yn y carchar.
Mae Brenton Tarrant, 28 oed, o Awstralia wedi cael ei gyhuddo o 50 achos o lofruddiaeth a 39 achos o geisio llofruddio. Fe allai’r cyhuddiadau gael eu newid i adlewyrchu’r cynnydd yn nifer y meirw. Mae disgwyl iddo fynd gerbron llys ar Fehefin 14.