Mae pleidleiswyr wedi mynegi eu hanfodlonrwydd tuag at y ddwy brif blaid wleidyddol yng ngwledydd Prydain, wrth i’r Ceidwadwyr a’r Blaid Lafur gael colledion sylweddol yn yr etholiadau lleol yn Lloegr.
Roedd y Ceidwadwyr yn disgwyl noson anodd yn sgil methiant Prif Weinidog Prydain, Theresa May, i sicrhau Brexit erbyn Mawrth 29.
Ond mae’r Blaid Lafur wedi cael ergyd hefyd, gan golli seddi ar adeg pan mae disgwyl iddyn nhw wneud cynnydd yn wyneb methiannau’r Llywodraeth.
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol, ar y llaw arall, wedi cael noson dda, gyda rhai’n darogan y gallan nhw ennill hyd at 500 o seddi.
Er nad yw’r holl ganlyniadau wedi eu cyhoeddi, mae’r Ceidwadwyr, hyd yn hyn, wedi colli 257 o seddi, a Llafur 45.
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedyn wedi ennill 183 o seddi, a’r Blaid Werdd 26.
Mae yna 62 yn fwy o gynghorwyr annibynnol hefyd, tra bo UKIP wedi colli pump.