Mae gwasanaethau Catholig ym mhrifddinas Sri Lanca wedi eu gohirio am yr ail benwythnos yn olynol ar ôl rhybudd gan lywodraeth y wlad am fwy o ymosodiadau posib.

Yn ôl llefarydd ar ran yr esgobaeth yn Colombo, mae’n rhaid gohirio holl wasanaethau’r ddinas yn sgil yr adroddiadau diogelwch diweddaraf.

Cafodd Fwslemiaid eu gorchymyn i aros adref yr wythnos ddiwethaf oherwydd y pryder, ac roedd holl eglwysi Catholig Sri Lanca ynghau.

Yn hytrach na’r gwasanaethau arferol ar y Sul, fe wnaeth Cardinal Malcolm Ranjith ddarlledu neges o’i gartref.

Mae arweinwyr Mwslemaidd Sri Lanca bellach yn annog pobol i ddychwelyd i fosgiau ar gyfer gweddïau’r dydd Gwener, er eu bod nhw hefyd yn gofyn i’r llywodraeth am fwy o swyddogion diogelwch.

Bu farw mwy na 250 o bobol o ganlyniad i’r ymosodiadau ar eglwysi a gwestai moethus yn Colombo a’r cyffiniau ar Ebrill 21.