Mae Plaid Cymru wedi lansio ei ymgyrch ar etholiad Ewrop gyda’r arweinydd, Adam Price, yn galw am Gymru annibynnol o fewn Ewrop.
“Rydym yn awyddus iawn i aros er mwyn newid lle a rhagolygon Cymru yn yr Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol,” meddai Adam Price heddiw (dydd Iau, Mai 2)
“Rydym am aros yn Ewrop fel y gallwn ei newid, nid yn unig i ni ein hunain, ond i ddyfodol Ewrop ei hun.”
Yn ôl Adam Price, fyddai Brexit ddim ond yn “symud y pŵer o un ochr yr Eurostar i’r llall”.
Mae’n honni mai Plaid Cymru yw’r unig blaid yng Nghymru sydd yn galw am ail refferendwm “yn ddiamwys”.
Dywed ei fod wedi blino gweld Cymru sy’n ddi-lais ac yn ddi-rym.
“Teulu gwledydd Ewrop”
“Yn sicr, rydym yn blaid sydd wedi ei eni o draddodiad cenedlaetholgar Cymru,” meddai Adam Price
“Rydym yn ceisio annibyniaeth i’n gwlad. Ond rydym eisiau’r annibyniaeth honno fel y gallwn gymryd rhan yn uniongyrchol yn y byd ehangach, yn bennaf oll fel rhan o deulu gwledydd Ewrop.
“Dyw Brexit ddim yn cynrychioli cymryd rheolaeth dros ein pobl. Mae’n golygu symud pŵer o un pen yr Eurostar i’r llall. Ac ar y naill ben a’r llall, does gennym ni ddim sedd ar y bwrdd uchaf ar hyn o bryd.”