Mae brenin Gwlad Thai wedi gwneud ei gariad yn frenhines y wlad, a hynny ar drothwy ei goroni dros y penwythnos (dydd Sadwrn, Mai 4).

Mae adroddiad ym mhapur y Royal Gazette yn dweud bod Brenin Maha Vajiralongkorn, 66, yn briod â Suthida Vajiralongkorn Na Ayudhya, ac yn cael ei hadnabod bellach fel Brenhines Suthida.

Er iddi fod yn ffigwr cyhoeddus ers rhai blynyddoedd, does dim gwybodaeth swyddogol wedi cael ei chyhoeddi amdani tan nawr, ac mae’r newyddion diweddaraf wedi bod yn gryn sioc i bobol Gwlad Thai.

Yn ôl adroddiadau, mae Suthida yn 40 oed ac yn gyn-weithiwr i gwmni Thai Airways International. Mae’n debyg ei bod hi a’r brenin wedi cyfarfod yn ystod taith ar awyren.

Fe ymunodd a’r gwarchodlu brenhinol yn 2013 cyn dod yn aelod blaenllaw o uned diogelwch y brenin, lle mae bellach yn dal safle cadfridog.