Mae Aelod Seneddol o Gymru wedi galw ar Theresa May i “anrhydeddu addewid” i’w diweddar fab drwy roi cefnogaeth ariannol i rieni ar gyfer costau angladdau plant.
Bu farw mab yr aelod tros Ddwyrain Abertawe, Carolyn Harris, bron i 30 mlynedd yn ôl, yn wyth oed.
Dywed ei fam fod bellach blwyddyn ers i’r Prif Weinidog addo sefydlu Cronfa Angladdau Plant yn Lloegr, a fyddai’n helpu awdurdodau lleol i dalu am angladdau plant a phobol ifanc o dan 18 oed, fel nad oes rhaid i rieni ysgwyddo’r gost.
Mae Llywodraeth Prydain yn amcangyfrif bod tua 4,350 o blant a phobol ifanc o dan 18 yn marw bob blwyddyn.
Anrhydeddu addewid
“Bydd yr haf hwn yn dynodi 30 mlynedd ers i mi golli Martin,” meddai Carolyn Harris mewn araith dagreuol gerbron Aelodau Seneddol. “Mae 30 mlynedd yn oes, ond ambell waith mae’n teimlo fel ddoe.
“Dyw’r boen ddim yn gwella ac mae’n dal i fod yn real a chignoeth. Dw i’n hiraethu am y bachgen bach gymaint, a dw i’n torri fy nghalon dros y ffaith na fydda i byth yn ei weld yn tyfu’n ddyn.”
Ychwanegodd: “Fe wnaeth y Prif Weinidog addewid. Fe wnaeth hi addewid i ddarparu’r gronfa ar gyfer Martin, ac mae angen iddi anrhydeddu’r addewid hwnnw i fy machgen bach, i fi, ac i bob rhiant arall sy’n wynebu’r tor calon o golli plentyn.”
Mewn ymateb, dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder, Edward Argar, fod y Llywodraeth wedi ymrwymo i gyflwyno’r gronfa yn Lloegr, a bod yna drefniadau ar gyfer sefydlu un yng Nghymru a’r Alban hefyd.
Dywedodd hefyd fod angen cyflwyno deddf cyn sefydlu cronfa o’r fath, a’i fod yn gobeithio gwneud hynny “yn yr haf”.