Mae Juan Guaido, arweinydd gwrthblaid Feneswela, yn annog pobol i wrthdystio ar y strydoedd wrth iddo herio’r arweinydd Nicolas Maduro am rym.

Mae’n cael ei gefnogi gan weinyddiaeth Donald Trump yn yr Unol Daleithiau, wrth i’r pwysau gynyddu ar Nicolas Maduro yn ninas Caracas.

Mae o leiaf un uwch-swyddog y fyddin yn dweud ei fod yn barod i droi ei gefn ar yr arweinydd a chefnogi ei wrthwynebydd.

Ond mae Nicolas Maduro yn mynnu bod gweithredoedd yr wrthblaid yn anghyfreithlon, a bod Feneswela wedi bod yn destun “ymosodiadau o bob math”.

Mae Juan Guaido yn annog protestwyr i ddangos eu dicter ar y strydoedd eto heddiw (dydd Mercher, Mai 1).

Mae grwpiau hawliau dynol yn beirniadu’r gwrthryfelwyr.