Mae adroddiad newydd yn dangos bod system Credyd Cynhwysol llywodraeth gwledydd Prydain yn gadael y bobol sy’n hawlio help i lawr.

Yn ôl Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant (CPAG), dydi hawlwyr ddim yn cael eu hysbysu am faint o arian sy’n ddyledus iddyn nhw.

At hynny, dydi’r hawlwyr ddim yn gwybod sut y mae gweithio allan faint o arian y maen nhw’n gael, na sut y mae herio penderfyniadau.

Mae’r grŵp yn cyhuddo yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) o fod yn “annigonol” a bod eu prosesau wedi arwain at y symiau anghywir yn cael eu rhoi i hawlwyr.

Dywed y Grŵp hefyd bod y ffordd y mae Credyd Cynhwysol yn cyflwyno chwech o fudd-daliadau gyda’i gilydd, yn golygu na all hawlwyr ddweud yn glir sut y mae’r cyfanswm yn rhannu.

O ganlyniad, nid yw gwallau yn dod yn amlwg ac mae dod o hyd iddyn nhw bron yn amhosib gan mai dim ond gwybodaeth sylfaenol mae datganiadau taliadau misol ar-lein yn ei rhoi.