Mae cyfreithiwr Julian Assange yn honni bod staff diplomyddol o Ecwador wedi ysbïo ar sylfaenydd WikiLeaks tra oedd yn derbyn lloches yn llysgenhadaeth y wlad yn Llundain.
Yn ôl Carlos Poveda, sydd wedi cyflwyno cŵyn i swyddfa Twrne Cyffredinol Ecwador, roedd yr ysbïo honedig wedi datgelu gwybodaeth ynglŷn ag iechyd Julian Assange a’r ffordd yr oedd yn amddiffyn ei hun yn gyfreithiol.
Dywed ymhellach fod diplomatiaid ac aelodau o gwmni diogelwch wedi bod yn rhan o’r ysbïo.
Bu Julian Assange yn derbyn lloches yn llysgenhadaeth Ecwador ers 2012, ond fe gafodd ei wahardd ar Ebrill 11 cyn cael ei arestio gan yr Heddlu Metropolitan yn Llundain.
Mae ar hyn o bryd yn y ddalfa ac yn aros i sefyll ei brawf am osgoi mechnïaeth.