Mae disgwyl i tua 800 o benaethiaid y Blaid Geidwadol ar lawr gwlad gynnal cynhadledd frys ym mis Mehefin mewn ymgais i ddisodli Theresa May fel arweinydd y blaid.

Mae’r Prif Weinidog yn wynebu her newydd i’w harweinyddiaeth ar ôl i ddigon o gadeiryddion etholaethol, ynghyd â merched ac ymgyrchwyr, arwyddo deiseb yn galw am gyfarfod cyffredinol brys.

Yn ôl papur The Sun, mae disgwyl iddyn nhw bleidleisio ar ddyfodol Theresa May yn sgil ei harweiniad ar Brexit.

Er na fydd canlyniad y bleidlais yn un orfodol, fe fydd ei cholli yn ergyd drom i haen uchaf y Blaid Geidwadol.

Daw’r datblygiad diweddaraf wrth i’r blaid baratoi ar gyfer  yr etholiadau lleol yr wythnos nesaf, a hynny cyn yr etholiad Ewropeaidd yn ddiweddarach ym mis Mai.

Mae disgwyl i’r Ceidwadwyr berfformio’n wael ym mhob un o’r etholiadau, gyda’r methiant i ddarparu Brexit ar Fawrth 29 yn brif gŵyn ymhlith pleidleiswyr.