Mae pedwar sgïwr o’r Almaen wedi cael eu lladd mewn cwymp eira yn ne’r Swistir.
Cawson nhw eu claddu ym mhentref Fieschertal yn rhanbarth Valais nos Wener (Ebrill 26).
Fe fu timau achub yn chwilio amdanyn nhw, ond fe fu’n rhaid dod â’r chwilio i ben oherwydd y tywydd.
Daethpwyd o hyd i’w cyrff brynhawn ddoe (dydd Sadwrn, Ebrill 27).
Dydyn nhw ddim wedi cael eu hadnabod yn ffurfiol eto.