Mae Brandon Lewis, cadeirydd y Ceidwadwyr, wedi amddiffyn polisi disgyblu’r blaid wrth iddyn nhw fynd i’r afael ag achosion o Islamoffobia.

“Nifer fach iawn” o gyhuddiadau sydd wedi bod, meddai, ac mae’r rheiny wedi bod yn destun proses ddisgyblu “dryloyw”.

Mae’n dweud bod y gosb ar gyfer y rhai sydd wedi’u cael yn euog yn amrywio o orfod ymddiheuro, gwaharddiadau dros dro neu’n barhaol.

“Rydym yn credu mewn ceisio newid ymddygiad,” meddai wrth raglen Andrew Marr ar y BBC.

“Dw i’n credu, fel gwlad ac yn fwy penodol ar y cyfryngau cymdeithasol, dylen ni fod yn ceisio newid ymddygiad.

“Ac os yw rhywun yn edifar, yn ymddiheuro, yn deall pam fod yr hyn wnaethon nhw’n anghywir ac nad ydyn nhw’n ei wneud e eto, dw i’n credu fod gan bobol yr hawl i gael ail gyfle, fel ein system gyfiawnder gyffredinol.”