Lladdwyd dau o bobol a daliwyd o leiaf wyth o rai eraill yn sownd oddi tan adeilad oedd wedi dymchwel yn ystod daeargryn yn ynysoedd y Ffilipinau.
Disgrifwyd y dirgryniad fel un “cryf”. Roedd archfarchnad yn rhan o’r adeilad.
Dywedodd y Maer Condralito dela Cruz, o dref Porac, yn rhanbarth Pampanga, i’r gogledd o Manila, fod achubwyr wedi clywed pobol yn sgrechian am gymorth wrth iddyn nhw geisio’u gorau glas i’w cyrraedd.
Roedd un o’r ddau a laddwyd yn blentyn.
Bu’n rhaid torri coes un o’r rhai gafodd eu hachub i’w gael yn rhydd o’r rwbel.
Mae o leiaf 31 o bobol yn dal ar goll yn rwbel adeilad yr archfarchnad Chuzon.
Fe ddymchwelodd yr adeilad pedwar-llawr pan ysgydwodd y daeargryn oedd yn mesur 6.1 gradd ar ynys ogleddol Luzon.
Dywedodd un llefarydd fod pobol wedi disgrifio’r ddaear yn symud fel “tonnau.”
Mae daeargrynfeydd yn digwydd yn weddol aml ar Ynysoedd y Philippinau. Bu farw tua 2,000 o bobol mewn un yn 1990.