Grŵp o eithafwyr Islamaidd oedd yn gyfrifol am y bomiau ddydd Sul y Pasg a laddodd bron i 300 o bobol, medd swyddogion yn Sri Lanca.

Roedd y saith hunan-fomiwr i gyd yn ddinasyddion o’r wlad ac yn aelodau o National Thowfeek Jamaath, meddai’r Gweinidog Iechyd Rajitha Senaratne heddiw..

Credir fod gan y grŵp gysylltiadau gyda grŵpiau tebyg eraill.

Lladdwyd o leiaf 290 o bobol yn y ffrwydradau, a chredir fod wyth o Brydeinwyr ymysg y meirw gyda rhagor na 500 o wedi’u hanafu.

D’oes dim mudiad wedi hawlio cyfrifoldeb ond mae’r heddlu wedi arestio 24 o bobol.

Yn y cyfamser, mae swyddogion Sri Lancaidd wedi cael eu cyhuddo o beidio gweithredu ar rybuddion gan asiantaethau cudd-wybodaeth am fygythiad o ymosodiad gan y grŵp Mwslimaidd sy wedi cael eu beio am y bomiau.

Dywedodd Mr Senaratne fod asiantaethau cudd-wybodaeth rhyngwladol wedi rhybuddio am yr ymosodiadau nifer o weithiau gan ddechrau ar Ebrill 4.

Ar Ebrill 9, fe ysgrifennodd y weinyddiaeth amddifyn at y prif swyddog heddlu gyda cudd-wybodaeth oedd yn cynnwys enw’r grŵp, meddai.

Ar Ebrill 11, fe ysgrifenodd yr heddlu at benaethiaid diogelwch y farnwriaeth a’r adran diogelwh diplomataidd, ychwanegodd.

Doedd ddim yn glir pa weithredu, os o gwbl, ddigwyddodd mewn ymateb.

Roedd yna hefyd gamweithredu gwleidyddol o fewn y llywodraeth, meddai, gyda’r Prif Weinidog Ranil Wickremesinghe a’i Gabinet wedi cael eu cadw yn y tywyllwch ynglŷn â’r cudd-wybodaeth tan ar ôl yr ymosodiadau.