Mae dau lanc yn eu harddegau wedi cael eu rhyddhau dros nos yn ddi-gyhuddiad yn dilyn llofruddiaeth y gohebydd Lyra McKee.
Rhyddawyd y ddau – un yn 18 a’r llall yn 19 oed – gan Heddlu Gogledd Iwerddon a apeliodd i’r cyhoedd gysylltu â nhw gyda unrhyw wybodaeth.
Bu farw Miss McKee, 29, wedi iddi gael ei saethu yn ei phen gan rywun yn dilyn terfysg yn Creggan, Derry nos Iau wedi i’r heddlu fynd yno. Dywedodd yr heddlu eu bod wedi mynd yno i geisio lleihau’r posibilrwydd o unrhyw drais yn digwydd dros penwythnos y Pasg a’r dathliadau i gofio Gwrthryfel y Pasg 1916 a arweiniodd i sicrhau annibyniaeth i Iwerddon.
Bydd ei hangladd yn cael ei gynnal yn ei dinas genedigol, Belffast ddydd Mercher.
Yn y cyfamser, mae arweinydd plaid yr SDLP Colum Eastwood wedi galw am drafodaethau i adfer rhannu grym yn Stormont i ddechrau yn syth bin yn dilyn llofruddiaeth Miss McKee.
Dywedod fod yna “awydd digamsyniol gan y cyhoedd fod colled trasig ac ofnadwy Lyra McKee yn drobwynt i’n broses heddwch a gwleidyddol.”